Dr Jonathan Ervine
Mae Jonathan Ervine yn Bennaeth Ffrangeg a Thiwtor Uwch yn Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor. Daw yn wreiddiol o Fife yn Yr Alban ac fe astudiodd is ac ôl radd ym Mhrifysgol Leeds. O 2002 hyd 2004, gweithiodd fel lecteur Saesneg ym Mhrifysgol Charles de Gaulle, yn Lille. Yn sytod y cyfnod hwn, cwblhaodd MA drwy ymchwil ym Mhrifysgol Leeds ar y pwnc, ‘Gwrthsefyll Rhyfel yn Sinema Ffrainc yn y 1950au a’r 1960au’. Dychwelodd i Leeds yn 2004 i ddilyn PhD ar ‘Gynrychioladau o ddieithrio cymdeithasol a hiliol mewn sinema Ffrangeg gyfoes’, a dechreuodd ddarlithio ym Mangor yn 2007. Mae Jonathan yn mwynhau rhedeg, beicio a phêl droed. Mae ar bwyllgor cefnogwyr tîm pel droed Bangor ac mae’n ysgrifennu colofn wythnosol ar y tîm yn y Bangor and Anglesey Mail.