Eidal 3

Eidal 3

06-02-2014
Logo eidal edges

llun-Catrin-Cooke

Astudiodd Catrin Cooke Almaeneg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn 2002. Aeth Catrin i astudio ym Mhrifysgol Heinrich Heine, Düsseldorf a hefyd ym Mhrifysgol Padova, ble bu Gallileo y seryddwr enwog yn astudio.

Wedi graddio, gwariodd Catrin gyfnod yn gweithio yn niwydiant twristiaeth Veneto, yn Llyn Garda ac yn Lido di Jesolo. Wedi hyn daeth Catrin yn nôl i Gymru a gweithio i Lywodraeth Cymru, cyn cael swydd yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Astudiodd ddiploma ôl raddedig mewn ‘Rheoli’r Celfyddydau’ a chael nifer o swyddi gwahanol gan gynnwys gweithio ar brosiect ‘Cymru yn Fenis’ yn 2009 fel rhan o’r Biennale Celf byd enwog. Mae Catrin yn gweithio fel Swyddog Gwybodaeth yn helpu rhannu gwybodaeth i artistiaid a sefydliadau celf am sut i geisio am nawdd. O dro i dro, mae’n defnyddio ei Almaeneg ac Eidaleg gyda chleientiaid!

 

 

 

 


Byd Bach
Pedwar Ban